Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Medi 2023
Amser:
13.30 -
16.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13477
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Adam Price AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)370 – Rheoliadau a Chyfarwyddydau Cyffredinol Arwyddion Traffig (Diwygio) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)371 – Rheoliadau Tribiwnlys Prisio Cymru (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.3 SL(6)373 – Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
2.4 SL(6)375 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
2.5 SL(6)367 – Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 9) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
2.6 SL(6)368 – Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7
3.1 SL(6)374 – Y Cod Apelau Derbyn i Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes
4.1 SL(6)364 – Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid, Pasbortau Anifeiliaid Anwes ac Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
5 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
5.1 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Drafnidiaeth
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
5.2 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Dilysu Dulliau Amgen ar gyfer Teipio Salmonela (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.
5.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
5.4 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Adroddiad Cysylltiadau Rhynglywodraethol
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Prif Weinidog a’r Adroddiad Cysylltiadau Rhyngwladol.
5.5 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
5.6 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Etholiadau a Chofrestru
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.7 Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, a gohebiaeth gyda hi: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Manwerthu: Iechyd y Cyhoedd, Safonau Cynnyrch Marchnata ac Organig a Darpariaethau Amrywiol) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gyda’r Gweinidog.
5.8 Datganiad Ysgrifenedig a Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.
5.9 Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Gorfodi etc.) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog am ragor o wybodaeth.
5.10Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog am ragor o wybodaeth.
5.11Datganiad ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Fframwaith Windsor (Cymorth Ariannol) (Marcio Nwyddau Manwerthu) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig a’r ohebiaeth gan y Gweinidog.
5.12Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gyfiawnder
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
5.13Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Nwyon Tŷ Gwydr wedi'u Fflworeiddio (Diwygio) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach.
5.14Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
5.15Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Llygryddion Organig Parhaus (Diwygio) (Rhif 2) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
5.16Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg. . Canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Addysg Ddewisol yn y Cartref
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
6.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
6.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Busnes: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Pwyllgor Busnes.
6.4 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
6.5 Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Craffu ar waith Gweinidogion
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog yr Economi at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig.
6.6 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Confensiwn Cyngor Ewrop ar Ddull Integredig o ran Diogeledd, Diogelwch a Gwasanaethau mewn Gemau Pêl-droed a Digwyddiadau Chwaraeon Eraill
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
6.7 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Llywydd.
6.8 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganiad ar gynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.9 Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cywiriad i gofnod 10 Gorffennaf
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.10Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Cytundebau rhyngwladol: Y DU/Y Swistir: Cytundeb ar Gydnabyddiaeth gan y Ddwy Ochr o Gymwysterau Proffesiynol
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog.
6.11Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 6) ynghylch y Bil Caffael.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
6.12Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Y Bil Dioddefwyr a Charcharorion
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
6.13Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Ddarfodol) 2023
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a’r ohebiaeth gan y Gweinidog at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
6.14Cyflwyniadau ysgrifenedig: Ymchwiliad Llywodraethiant y DU-UE
Nododd y Pwyllgor y cyflwyniadau a ddarparwyd i'r ymchwiliad.
6.15Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog.
6.16Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Craffu ar waith Gweinidogion
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
6.17Gohebiaeth oddi wrth y Prif Weinidog: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 6) ynghylch y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
8 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ynni
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.
9 Cytundebau rhyngwladol
Nododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
Cytunodd y Pwyllgor i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Croesawodd y Pwyllgor benderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chychwyn y broses graffu cyn cadarnhau ar gyfer y Protocol ar Dderbyn Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon i’r CPTPP am o leiaf dri mis, a fydd yn caniatáu mwy o amser i bwyllgorau wneud gwaith craffu ar y protocol sydd wedi’i gyhoeddi.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â dau o’r cytundebau: Confensiwn y DU-Norwy-Liechtenstein-Gwlad yr Iâ ar Gydgysylltu Nawdd Cymdeithasol a’r Protocol yn diwygio’r Confensiwn Rhyngwladol ar Gadwraeth Tiwna’r Iwerydd.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw pwyllgorau perthnasol Senedd Cymru a Senedd y DU at y cytundebau rhyngwladol.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Ardrethu Annomestig
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.